Mae'r Mudiad 100 Miliwn Awr yn alwad genedlaethol am weithredu ar y cyd i gryfhau'r gweithlu a'r gymdeithas, wedi'i bweru gan weithwyr sy’n gwirfoddoli.
Mae gwirfoddoli wedi profi i fod yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â llawer o heriau dybryd yn y gweithlu a chael effaith ar gymdeithas, ond llai na thraean o'r amser a gynigir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
O gwmnïau mawr i fusnesau bach a chanolig, sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw, mae'r ymgyrch yn galw ar holl gyflogwyr y DU i addo cymryd tri cham i gynyddu’r nifer o weithwyr sy’n gwirfoddoli yn eu gweithleoedd.
Y rhain yw:
- Arwain o'r tu blaen
- Agor y cyfle i bawb
- Ei gwneud hi'n hawdd
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: 100 Million Hours | Business Impact Through Corporate Volunteering | Royal Voluntary Service.
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld bod y busnesau maen nhw'n ymwneud â nhw hefyd yn cymryd rhan ac yn gwneud yr un peth. Mae yna lawer o ffyrdd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol, a chadw eu cwsmeriaid yn hapus ar yr un pryd. Darllenwch dudalennau 'Gweithio gyda'ch cymuned leol' Busnes Cymru i gael gwybod mwy.