Diogelwch eich busnes rhag arian papur ffug a dysgwch am y newyddion diweddaraf am arian papur drwy ymuno â Chynllun Gwirio Arian Papur Banc Lloegr.
Dyma gynllun rhad ac am ddim sy’n galluogi'ch busnes i:
- leihau'r golled ariannol a'r perygl i’ch enw da a ddaw o arian papur ffug
- dysgu am yr wybodaeth ddiweddaraf am arian papur a dysgu o'ch profiadau
- cefnogi eich cymunedau trwy atal arian papur ffug rhag cael ei ledaenu a'r troseddau sy'n gysylltiedig â hynny
Bydd hefyd yn eich helpu i:
- hyfforddi eich staff i wirio arian papur yn hyderus yn y man talu
- sicrhau bod eich staff yn gwybod beth i'w wneud gydag arian papur ffug
- dysgu am yr arferion gorau diweddaraf
- dysgu am ddatblygiadau pwysig o ran arian papur
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Banknote Checking Scheme | Bank of England.