Newyddion

Ymgysylltiad Cyflogwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau: Llunio Recriwtio yng Nghymru

Virtual event - small business

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cynnal digwyddiad ymgysylltu rhithwir wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer cyflogwyr bach a chanolig ledled Cymru.

Dyma'ch cyfle i helpu i lunio sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chanolfan Byd Gwaith yn cefnogi eich anghenion recriwtio a gwella eu gwasanaethau i gyflogwyr.

Mae prif bynciau trafod yn cynnwys:

  • Yr hyn sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig gan wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith – yn bersonol, yn rhithwir, neu ar safle
  • Sut y gall gwasanaethau digidol gefnogi recriwtio a datblygu'r gweithlu yn well
  • Sut beth yw gwasanaeth recriwtio o ansawdd uchel i gyflogwyr
  • Sut y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith wella cyfathrebu ac ymgysylltu â busnesau bach a chanolig

Cynhelir y digwyddiad rhithwir hwn ar 17 Gorffennaf 2025 rhwng 10yb a 12yp.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd neu os hoffech chi ddysgu mwy, cofrestrwch eich diddordeb.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.