Newyddion

Ymgyrch y Swyddfa Dywydd – Barod am y Tywydd

Person using an umbrella

Y mis Ebrill hwn fu’r mwyaf heulog a gofnodwyd yn y DU ers i gofnodion ddechrau. Er bod y DU wedi mwynhau digon o dywydd sych a braf hyd yma y gwanwyn hwn, yn sicr bydd amodau mwy newidiol i ddod dros y misoedd nesaf. Gall cyfnodau poeth a sych yr haf droi’n law trwm a stormydd mellt a tharanau, felly mae’n bwysig bod yn barod beth bynnag fo’r tywydd.

Mae ymgyrch y Swyddfa Dywydd, sef Barod am y Tywydd, yn dwyn ynghyd cyngor arbenigol gan amrywiaeth o sefydliadau partner i helpu pobl i baratoi ar gyfer y tywydd ac ymateb iddo, fel eu bod nid yn unig yn aros yn ddiogel, ond yn gallu manteisio arno i’r eithaf.

Mae’r tywydd poeth dros yr hafau diwethaf yn ein hatgoffa i gadw ein hunain, ein teuluoedd a’n cymdogion yn ddiogel ac yn iach mewn tywydd poeth. Gall cymryd camau syml ofalu am ein hiechyd mewn gwres, fel gwisgo hetiau a dillad llac, a gwarchod ein croen gydag eli haul. Y cyngor hefyd yw i gadw’ch hun yn hydradol trwy yfed llawer o ddŵr a bwyta bwydydd sy’n cynnwys llawer o ddŵr, fel lolipops iâ, salad a ffrwythau.

O ran glaw trwm, yn enwedig pan fo’r tir yn sych iawn ac yn methu â’i amsugno, gall llifogydd a dŵr sy’n llifo achosi difrod i eiddo neu fusnesau, yn ogystal â chreu amodau teithio anodd.  Mae’n bwysig cadw llygad ar y rhagolygon a gweithredu pan ragwelir glaw trwm. Gallai hyn olygu gwneud yn siŵr bod cwteri a draeniau’n glir, neu baratoi pecyn llifogydd i’ch helpu i ymdopi os bydd llifogydd yn effeithio ar eich cartref a’ch busnes.

Mae amrywiaeth eang o erthyglau yn rhoi cyngor ar wefan y Swyddfa Dywydd, awgrymiadau da a chyngor ar gael  ar fod yn barod ar gyfer llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Darganfyddwch fwy am yr hyn y gallwch chi ei wneud i baratoi eich hun ar gyfer unrhyw fath o dywydd, neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BarodamyTywydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.