Newyddion

Ymgynghoriad: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru

apprentice

Mae Medr yn edrych i lunio rhaglen prentisiaethau newydd i Gymru. Maent yn ceisio barn gan randdeiliaid allweddol, darparwyr hyfforddiant, cynrychiolwyr y diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr a rhieni i helpu i lunio cynnig sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, sy’n gynhwysol ac yn ymatebol.

Mae Medr wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhaglen brentisiaethau yn parhau i fodloni blaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac anghenion esblygol dysgwyr, cyflogwyr a’r economi ehangach, fel rhan o system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig.

Bydd eich mewnwelediadau’n chwarae rhan hanfodol wrth lywio datblygiad rhaglen sy’n cynorthwyo dysgu o ansawdd uchel, cyflogaeth ystyrlon, a thwf economaidd hirdymor ledled Cymru. 

Mae Medr yn eich gwahodd i rannu eich profiad, syniadau ac i gyfrannu i ddylunio system prentisiaethau ar y cyd, sy’n gweithio i bawb.

Dyddiad cau ar gyfer ymateb yw’r 31 Hydref 2025 a bydd Medr yn cynnal digwyddiadau ymgynghori isod:

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad - Medr


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.