
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi lansio'r Ymgynghoriad ar Hawlfraint a Deallusrwydd Artiffisial.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ynghylch sut y gall llywodraeth y DU sicrhau bod fframwaith cyfreithiol y DU ar gyfer deallusrwydd artiffisial a hawlfraint yn cefnogi diwydiannau creadigol y DU a'r sector deallusrwydd artiffisial gyda'i gilydd.
Mae hawlfraint yn un o bileri allweddol ein heconomi greadigol. Mae'n bodoli i helpu crewyr i reoli'r defnydd o'u gwaith ac yn caniatáu iddynt ofyn am dâl ar ei gyfer. Fodd bynnag, mae'r defnydd eang o ddeunydd sydd dan hawlfraint i hyfforddi modelau deallusrwydd artiffisial wedi cyflwyno heriau newydd i fframwaith hawlfraint y DU, ac mae llawer o ddeiliaid hawliau wedi ei chael hi'n anodd arfer eu hawliau yn y cyd-destun hwn. Mae'n bwysig bod hawlfraint yn parhau i gefnogi diwydiannau creadigol y DU - diwydiannau sy’n arwain ar lefel fyd-eang - ac yn creu'r amodau ar gyfer arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial sy'n galluogi iddynt rannu buddion y technolegau newydd hyn.
Hefyd, mae'r ymgynghoriad yn mynd i'r afael â materion eraill sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys diogelu hawlfraint ar gyfer gwaith a gynhyrchir gan gyfrifiaduron, ac atgynyrchiadau digidol.
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial esblygu'n gyflym, mae'n rhaid i ymateb y DU addasu. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion hyn rannu eu barn a darparu tystiolaeth ynghylch effaith economaidd y cynigion hyn.
Daw'r ymgynghoriad i ben am 11:59pm 25 Chwefror 2025.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymateb i'r ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol: Copyright and Artificial Intelligence - GOV.UK