Newyddion

Ymgynghoriad – Galwad am Fewnbwn ar Ataliadau Tariffau Dros Dro ar Nwyddau ar gyfer Costau Byw

£20 notes, wallet and shopping receipt

Mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi rhoi pwysau sylweddol ar brisiau’n codi i ddefnyddwyr.

Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth y DU yn archwilio a allai atal tariffau mewnforio dros dro arwain at fuddion i gartrefi a theuluoedd. Edrychwch ar first cost of living tariff suspensions package, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2026.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i ystyried pob llwybr y gallant ei gymryd i gefnogi cartrefi ym Mhrydain yn ystod yr argyfwng parhaus hwn, gan gynnwys ail becyn posibl o ataliadau tariffau dros dro i gynnwys bwydydd, gwrtaith, a cherosin.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y gallai gostyngiadau tariffau dros dro ar y nwyddau hyn gael effeithiau nas rhagwelwyd ar fusnesau domestig a rhanddeiliaid eraill y DU, ac felly mae’n gofyn am farn rhanddeiliaid drwy'r cais hwn am fewnbwn ar y nwyddau a ystyrir yn yr ail becyn atal tariffau dros dro ar gyfer costau byw hwn.

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben am 11:59pm ar 24 Mehefin 2026.

Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i'r ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol: Call for input on goods for cost of living tariff suspensions - GOV.UK. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.