Newyddion

Ymgynghoriad: Cyfyngu ar werthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant yng Nghymru

Boy looking at drinks in shop fridge

Rhannwch eich barn ar gynigion ar gyfer gweithredu a gorfodi'r cyfyngiad ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant dan 16 oed yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar gynigion ynghylch gweithredu a sut i orfodi gwaharddiad, gan gynnwys asesu cydymffurfiaeth, gwirio oedran, sancsiynau a monitro.

Bydd y cyfyngiad yn cwmpasu pob gwerthwr, manwerthwr a busnes sy’n gwerthu i ddefnyddwyr waeth beth fo’u maint, gan gynnwys y sector y tu allan i’r cartref a siopau nad ydynt yn gwerthu bwyd a diod yn bennaf (Er enghraifft, manwerthwyr dillad a siopau papurau newydd), a gwerthiannau ar-lein i ddefnyddwyr yng Nghymru. 

Fodd bynnag, ni fyddai’r cyfyngiad yn berthnasol i werthiannau busnes i fusnes, fel cyfanwerthwyr, lle nad oes budd iechyd y cyhoedd uniongyrchol i blant.

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Rhagfyr 2026: Cyfyngu ar werthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant yng Nghymru – Gorfodi | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.