Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yw corff swyddogol llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hawliau eiddo deallusol (IP).
Nid yw system ddylunio'r DU wedi'i diweddaru ers i ychydig o newidiadau gael eu gwneud yn 2016.
Er mwyn sicrhau bod y drefn yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn cefnogi'r sector dylunio, mae llywodraeth y DU yn adolygu system ddyluniadau’r DU.
Mae'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol ers hynny ac ymadawiad y DU o'r UE yn golygu bod angen adolygiad cynhwysfawr i sicrhau bod y fframwaith yn cefnogi busnesau dyluniadau'r DU yn y ffordd orau. Mae system eiddo deallusol y DU ar gyfer diogelu dyluniadau yn gymhleth ac mae defnyddwyr yn ei hystyried yn anodd i’w llywio, yn enwedig busnesau bach sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o'r sector.
Er mwyn deall beth mae defnyddwyr ei eisiau, mae'r IPO yn cynnal ymgynghoriad o system ddylunio'r DU. Mae'r ymgynghoriad yn eang ac yn dechnegol ei natur er mwyn gwneud y system yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig (BBaChau), gan ganiatáu iddynt ddiogelu a gorfodi eu hawliau IP Deallusol yn haws ac yn fwy effeithlon. Bydd hyn yn sicrhau bod y fframwaith IP yn rhoi mantais gystadleuol i'r DU trwy annog mwy o arloesedd a thwf yn y sector.
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 27 Tachwedd 2025: Consultation on changes to the UK designs framework - Intellectual Property Office - Citizen Space.