Newyddion

Ymgynghoriad ar Gynllun Atgyfeirio Banciau

business owners looking at a laptop

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar ffyrdd o wella'r Cynllun Atgyfeirio Banciau.

O dan y cynllun, rhaid i fenthycwyr gyfeirio cwsmeriaid BBaCh y maent yn eu gwrthod am gyllid i lwyfannau lle gallant ddod o hyd i ddarparwyr cyllid amgen. Bydd yr ymgynghoriad yn archwilio ffyrdd y gall benthycwyr gefnogi busnesau bach a chanolig yn well trwy eu cysylltu ag ystod ehangach o ddarparwyr cyllid a lleihau'r nifer sy'n rhoi'r gorau i chwilio ar ôl cael eu gwrthod y tro cyntaf.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am 11:59pm ar 22 Rhagfyr 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Bank Referral Scheme: Consultation and call for evidence - GOV.UK. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.