Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar ddiwygiadau i gontractau dim oriau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y bydd hawliau cyflogeion newydd a gyflwynwyd o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cael eu gweithredu.
Mae'r hawliau'n cynnwys:
- oriau gwarantedig, lle mae nifer yr oriau a gynigir yn adlewyrchu'r oriau a weithiwyd gan weithiwr cymwys yn ystod cyfnod cyfeirio
- rhybudd rhesymol o shifftiau a newidiadau i'r rhain
- taliad am shifftiau a gafodd eu canslo, eu cwtogi neu eu symud ar fyr rybudd
Daw’r ymgynghoriad i ben am 11:59am ar 25 Awst 2026.
Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i'r ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol: Make Work Pay: ending one-sided flexibility – reforms of zero hours and similar contracts - GOV.UK.