
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar barhau â'r isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru y tu hwnt i fis Mawrth 2026, a chodi'r pris uned o 50c i 65c.
Nod y polisi, a ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Mawrth 2020, yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau'r defnydd o alcohol ymysg pobl sy'n yfed mewn modd peryglus a niweidiol.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 29 Medi 2025: Ymgynghoriad ar osod isafbris am alcohol y tu hwnt i 2026 [HTML] | LLYW.CYMRU