Newyddion

Ymgynghoriad ar ddiwygio statws cyflogaeth ac amddiffyniadau i'r hunangyflogedig 

workshop, carpentry

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ynghylch diwygiadau sy’n targedu’r fframwaith statws cyflogaeth ar gyfer hawliau cyflogaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion i:

  • roi llai o bwyslais ar wasanaeth personol wrth bennu statws gweithiwr
  • gwella cydymffurfiaeth â'r fframwaith statws cyflogaeth, gan gynnwys trwy ragdybio statws gweithiwr a mesurau gorfodi
  • cryfhau amddiffyniadau i'r hunangyflogedig, gan gynnwys trwy ddatganiadau ysgrifenedig, amddiffyniadau rhag cosbrestru, ac amddiffyniadau iechyd a diogelwch

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar sut y gallai'r cynigion hyn weithredu yn ymarferol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 11:55pm ar 8 Ionawr 2027.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Make Work Pay: employment status reform and protections for the self-employed  - GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.