Newyddion

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i ‘Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru

box of electrical equipment for recycling

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024 i wella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff a gaiff ei ailgylchu o weithleoedd.

Rydym yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i ‘Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru’ & sy'n darparu canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r gofynion gwahanu ailgylchu yn y gweithle.

Mae'r diwygiadau i'r cod yn adlewyrchu diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 i weithredu ymrwymiad i weithleoedd gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) ar wahân i'w gasglu a'i ailgylchu ymhellach o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i weithleoedd wahanu sWEEE heb ei werthu yn unig.

Mae mân ddiweddariadau eraill i'r cod o fewn cwmpas y polisi gwreiddiol wedi'u gwneud i adlewyrchu bod esemptiad ar gyfer ysbytai wedi dod i ben ac i wella eglurder a chysondeb yn dilyn adborth ers i'r rheoliadau ddod i rym ym mis Ebrill 2024.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio gwaith drafftio terfynol y diwygiadau i'r cod a'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22 Hydref 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Diwygiadau i Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.