Cyflwynodd y Mesur Hawliau Cyflogaeth hawl newydd o'r diwrnod cyntaf i absenoldeb profedigaeth heb dâl i weithwyr sy'n colli anwylyd, gan gynnwys colli babi cyn 24 wythnos.
Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am farn i sicrhau bod yr hawl newydd yn cael ei llunio gan roi’r lle blaenaf i anghenion gweithwyr a chyflogwyr.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y canlynol:
- meini prawf cymhwysedd
- mathau o golli babi
- pryd a sut y gellir cymryd absenoldeb profedigaeth
- gofynion hysbysu a thystiolaeth
Croesewir barn gan yr holl randdeiliaid, yn enwedig y rhai sydd â dealltwriaeth o'r pwnc sensitif a phersonol hwn. Gall hyn gynnwys elusennau, unigolion â phrofiad byw, a chyflogwyr.
Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 15 Ionawr 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Make Work Pay: leave for bereavement including pregnancy loss - GOV.UK.