Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori â chyflogwyr ynglŷn ag ymestyn gwiriadau hawl i weithio gyda'r bwriad penodol o atal gweithio anghyfreithlon.
Trwy'r Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, mae Llywodraeth y DU yn cryfhau'r gofynion i geisio roi terfyn ar weithio anghyfreithlon.
Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd y gofyniad i gynnal gwiriadau hawl i weithio yn cael ei ymestyn i gynnwys busnesau sy'n cyflogi gweithwyr 'economi gig' a dim oriau mewn sectorau fel adeiladu, dosbarthu bwyd, salonau harddwch, gwasanaethau cludo a warysau.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar:
- sut y dylai'r newid hwn gael ei weithredu a'i orfodi
- sut y gellir symleiddio prosesau i'w gwneud hi'n haws i gyflogwyr gyflawni eu cyfrifoldebau
Bwriad yr ymgynghoriad yw rhoi cyfle i fusnesau helpu i lunio'r canllawiau a'r codau ymarfer statudol. Mae'r rhain yn sail i'r gwiriadau hawl i weithio a fydd yn ofynnol i gadarnhau bod gan unigolion yr hawl i weithio yn y DU.
Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59 pm ar 10 Rhagfyr 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Prevention of illegal working: Extending the Right to Work Scheme to other working arrangements - GOV.UK.