
Mae opsiynau teithio cynaliadwy a llesol yn bwysicach nag erioed, wrth i fwy o bobl symud tuag at arferion ecogyfeillgar. Mae effaith teithio ar yr amgylchedd wedi dod yn ffocws allweddol, gyda defnyddwyr yn mynnu opsiynau gwyrddach fwyfwy.
Mae grantiau o hyd at £5,000, gan Ymddiriedolaeth Naturesave, ar gael i elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad sydd â phrosiectau i ddarparu mentrau teithio cynaliadwy a llesol
Mae'r Ymddiriedolaeth eisiau cefnogi prosiectau sy'n mynd ati i hyrwyddo dulliau o deithio a thrafnidiaeth sy’n gynaliadwy ac yn ecogyfeillgar:
- Cerbydau: tanwydd glân, batris, neu'r ddau. Gall hyn gynnwys cerbydau trydan, systemau pŵer hybrid, a chelloedd tanwydd.
- Seilwaith: megis systemau trafnidiaeth gyhoeddus.
- Ffynhonnell ynni: Defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn lle tanwyddau ffosil fel glo.
- Gweithgaredd: Cerdded, beicio, neu ddefnyddio sgwter yn hytrach na gyrru.
Y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr hon yw 12pm ar 27 Chwefror 2025.
Oes gennych chi brosiect sy'n addas? Gwnewch gais am gyllid heddiw