
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) lyfr gwaith i gyflogwyr, undebau, cynrychiolwyr diogelwch a gweithwyr diogelwch proffesiynol i ddarganfod beth aeth o'i le ar ôl damwain neu ddigwyddiad a nodi’r risgiau y gallant eu hosgoi'n hawdd.
Mae'r llyfr gwaith yn cynnig canllaw cam wrth gam, i helpu sefydliadau i gynnal eu hymchwiliadau iechyd a diogelwch eu hunain.
Gallwch lawrlwytho copi am ddim o wefan yr HSE: Investigating accidents and incidents (HSG245).
Mae ffigurau diweddaraf yr HSE ar gyfer 2023 i 2024 yn dangos:
- bod 138 o weithwyr wedi cael eu lladd mewn damweiniau oedd yn gysylltiedig â gwaith
- bod 604,000 o bobl oedd yn gweithio wedi cael anaf yn y gwaith
- bod 61,663 o anafiadau i weithwyr wedi cael eu cofnodi o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus