Mae stori Cymru yn aml yn cael ei hadrodd drwy ein tirweddau, ein trefluniau ac yn yr adeiladau hanesyddol di-ri a'r henebion o'n hamgylch.
Yn ôl ymchwil newydd bwysig wedi'i chyhoeddi heddiw [dydd Gwener 9 Hydref], mae'r mannau hanesyddol hyn, a elwir yn 'amgylchedd hanesyddol', yn cefnogi bron i 18,000 o swyddi ac yn cyfrannu mwy na £738 miliwn i economi'r wlad bob blwyddyn.
Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd yn annibynnol gan AMION ar gyfer Cadw (gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy'n gofalu am fannau hanesyddol anwylaf ein gwlad), yn archwilio'r gwerth economaidd a chymdeithasol a'r gwerth ehangach a gynhyrchir gan safleoedd hanesyddol, amgueddfeydd, parciau, tirweddau a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru.
Amcangyfrifodd yr astudiaeth fod yr amgylchedd hanesyddol nid yn unig yn cefnogi swyddi i ddegau o filoedd i bobl ac yn cyfrannu bron i dri chwarter £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ond hefyd mae mwy na 13 miliwn o ymweliadau yn cael eu gwneud bob blwyddyn â safleoedd hanesyddol ac amgueddfeydd achrededig.
Y tu hwnt i'r effeithiau economaidd, canfu'r astudiaeth fod y sector yn cynhyrchu mwy na £107 miliwn o werth cymdeithasol bob blwyddyn drwy wirfoddoli, ymweliadau, addysg ac ymgysylltu â'r gymuned.
Ledled Cymru mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu mwy na 902,000 o oriau at dreftadaeth bob blwyddyn, gan arwain at les gwerth £9.8 miliwn.
Mae'r ymchwil hefyd yn archwilio'r gwerth mae pobl yn ei roi i dreftadaeth hyd yn oed pan nad ydyn nhw eu hunain yn ymweld â safleoedd, gyda llawer yn dweud bod gwybod bod lleoedd hanesyddol yn parhau i ffynnu yn ddigon o destun balchder iddyn nhw.
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at symud ehangach ar draws y sector tuag at gyn, hwysiant a hygyrchedd, gyda menter tocyn £1 Cadw ar gyfer pobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn enghraifft dda o hyn, ac wedi caniatáu i nifer sylweddol o bobl ymweld â mannau am y tro cyntaf.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Ymchwil yn dangos gwir cyfraniad treftadaeth at swyddi, economi a chymunedau Cymru | LLYW.CYMRU.