Newyddion

Ydych chi’n gymwys i hawlio hyd at £200 i helpu gyda chostau ysgol?

school uniform

Mae hyd at £200 ar gyfer pob dysgwr ar gael i helpu gyda chostau'r diwrnod ysgol, ac mae'r cyfnod i hawlio ar agor.

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol. Mae’r ysgol hefyd yn cael cyllid ychwanegol o ganlyniad i hawlio'r grant hwn.

Gall teuluoedd cymwys wneud cais am grant o £125 ar gyfer pob plentyn y flwyddyn. A gall teuluoedd â phlant sy'n dechrau blwyddyn 7 wneud cais am £200 i helpu gyda chostau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant hwn.

Gellir defnyddio'r Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer hanfodion ysgol fel gwisg ysgol, gweithgareddau ysgol, citiau chwaraeon a deunyddiau ysgrifennu. 

Mae'r cyfnod i wneud cais ar gyfer cynllun 2025 i 2026 wedi agor bellach, a bydd yn cau ar 31 Mai 2026.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ydych chi’n gymwys i hawlio hyd at £200 i helpu gyda chostau ysgol? | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.