Newyddion

Ydych chi’n gwybod am Ysgol Gynradd sydd â Busnes Gwych?

Enillwch wobr o £2,500 i'ch ysgol gynradd!

Mae Cystadleuaeth Y Criw Mentrus ar gyfer ysgolion cynradd Cymru yn chwilio am fusnesau ysgolion anhygoel sy’n cael eu rhedeg gan entrepreneuriaid ifanc.

Ydych chi yn gwybod am fusnes ysgol yn eich cymuned? Ysgol eich plentyn efallai, neu ysgol ble rydych yn gwirfoddoli, neu un rydych wedi ei gweld yn cyflawni pethau gwych yn lleol? Anogwch hwy i gymryd rhan cyn 16 Mehefin 2025!

Mae modd i’r rhai sy’n cymryd rhan eleni ennill gwobrau o hyd at £2500 ar gyfer eu hysgol:

  • Gwobr ECO / Effaith Cynaliadwyedd £2,500
  • Gwobr Creadigrwydd / Arloesedd £2,500
  • Gwobr Effaith Cymdeithasol/ Cymunedol £2,500

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Y Criw Mentrus | Busnes Cymru ac ymunwch â ni i ddathlu'r genhedlaeth nesaf o sêr busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.