Newyddion

Ydych chi'n fusnes neu’n sefydliad sydd am greu profiadau mwy cynhwysol?

Wheelchair user in a library chatting to friends

Ymunwch â gweithdy ar-lein awr rhad ac am ddim, a gynhelir gan Piws, a chymerwch y cam nesaf ar eich taith hygyrchedd.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i roi offer ymarferol i chi, ysbrydoli meddwl newydd, a helpu i wneud eich lleoliadau’n fwy croesawgar i unigolion anabl. Mae'r pynciau i'w trafod yn cynnwys egwyddorion hygyrchedd allweddol, amlinellu eich cyfrifoldebau cyfreithiol, a rhannu camau gweithredol syml, effeithiol y gallwch eu gweithredu ar unwaith.

Cynhelir sesiynau trwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf 2025, mae’r llefydd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru'n gynnar i sicrhau’r dyddiad sydd orau i chi.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad sydd am greu profiadau mwy cynhwysol? - Piws


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.