Newyddion

Ydych chi’n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro? Dylech wirio eich dyletswyddau pensiwn

person working at a garden centre looking at a laptop

Dylai busnesau sy'n cyflogi staff tymhorol dros yr haf wirio eu dyletswyddau cofrestru awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle.

Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, rhaid i chi eu hasesu'n unigol bob tro y byddwch yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff a fydd yn gweithio i chi am ychydig ddyddiau, ychydig wythnosau neu am sawl mis.

Efallai y bydd eich asesiad o bwy ddylai fod mewn cynllun pensiwn yn cymryd mwy o amser ac ymdrech, gan y bydd angen i chi ystyried:

  • mai dim ond am gyfnodau byr y byddan nhw’n gweithio i chi
  • y gallant ymuno a gadael eich cyflogaeth yng nghanol cyfnodau cyflog
  • bod eu henillion a'u horiau yn amrywio

Ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau i weld pa ddyletswyddau cyfreithiol fydd yn berthnasol i chi a beth fydd angen i chi ei wneud ar gyfer staff tymhorol a staff dros dro.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Employing seasonal or temporary staff


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.