Newyddion

Ydych chi’n barod i lenwi'r bylchau yn eich gwybodaeth dreth?

Small Business owner looking at a digital device

Mae treth yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni i gyd feddwl amdano. Ond os nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau hyd yn oed, gall deimlo'n gymhleth.

Os ydych chi'n rhedeg busnes bach, efallai y bydd angen i chi ymdrin â gwahanol fathau o dreth a systemau, fel Hunanasesu, Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, TAW, neu Dreth Gorfforaeth.

Mae CThEF wedi creu Hyderus o Ran Treth (Tax Confident) – i'ch helpu i ddeall sut mae'n gweithio ac wedi llunio rhai canllawiau clir a syml sy’n dadansoddi popeth ac yn cael gwared ar y jargon.

P'un ai ydych chi newydd ddechrau, neu wedi bod mewn busnes ers tro, fe welwch chi'r hyn sydd ei angen arnoch chi.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Understanding Tax for Small Businesses - Tax Confident.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.