Mae aelodaeth lawn Tasglu Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi, wrth i'r aelodau ddod ynghyd ar gyfer eu cyfarfod cyntaf i ddechrau ar gam nesaf y gwaith.
Cafodd y Tasglu Canol Trefi ei sefydlu i ddarparu cyngor ymarferol, arbenigol ar ddyfodol canol trefi. Cyhoeddwyd ei gyd-Gadeiryddion, yr Athro Simon Gibson CBE a Tamsin Ramasut, ar 11 Awst 2026.
Mae'r Tasglu yn dwyn ynghyd arbenigwyr o fyd busnes, y byd academaidd, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, trafnidiaeth, tai a chymunedau. Gan weithio gyda'r cyd-Gadeiryddion, bydd yr aelodau yn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi Cymru ac yn helpu i ddatblygu argymhellion ymarferol, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar gyfer Gweinidogion Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Y Tasglu Canol Trefi yn dechrau ar ei waith gyda chyhoeddi ei aelodau | LLYW.CYMRU.