Newyddion

Y Senedd yn pleidleisio dros reolau newydd ynghylch hyrwyddo bwyd sy'n gysylltiedig â gordewdra

packet of muffins

Mae'r Senedd wedi pasio rheolau newydd ynghylch sut a ble y gellir hyrwyddo bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr a'u harddangos mewn siopau mawr ac ar-lein.

Nod y rheoliadau yw atal prynu'r bwydydd hyn yn fyrbwyll a'u gorfwyta a byddant yn helpu i fynd i'r afael â'r lefelau gordewdra sy'n codi yng Nghymru.

Bydd Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu'r rheolau sydd eisoes ar waith yn Lloegr, yn gwneud y canlynol:

  • cyfyngu ar hyrwyddo mewn ffordd sy’n gallu annog pobl i orfwyta, fel cynigion i brynu sawl eitem am bris llai ac i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim
  • cyfyngu ar gyflwyno bwyd sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn y lleoliadau gwerthu gorau mewn siopau, fel wrth y fynedfa a’r mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau
  • eu gwneud yn berthnasol i fusnesau canolig a mawr sydd â 50 neu ragor o weithwyr

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Y Senedd yn pleidleisio dros reolau newydd ynghylch hyrwyddo bwyd sy'n gysylltiedig â gordewdra | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.