Mae’r newyddion am fuddsoddiad enfawr mewn adweithyddion niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gogledd Cymru yn “fuddugoliaeth ddwbl i Gymru” yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y ddau ddatblygiad yn ddatganiadau pwysig am ddyfodol economi Gogledd Cymru, ac yn dystiolaeth o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i gyflawni buddsoddiad fydd yn creu effaith am genedlaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Y Prif Weinidog yn canmol ‘buddugoliaeth ddwbl i Gymru’ | LLYW.CYMRU ac North Wales to pioneer UK’s first small modular reactors - GOV.UK.