Newyddion

Y Gyfres Intrapreneuriaeth: Ysgogi arloesedd yn fewnol

Entrepreneurs looking at a laptop

Mae'r Brifysgol Agored yn gweithio gyda sefydliadau i ddeall eu heriau a darparu atebion i brinder sgiliau trwy raglenni dysgu a datblygu'r Brifysgol Agored.

Mae entrepreneuriaid a busnesau newydd yn gyfryngau gwych ar gyfer syniadau newydd a datrys problemau, ond gallwch ddal i ysgogi arloesedd o fewn eich sefydliad eich hun trwy feithrin intrapreneuriaeth.

Mae intrapreneuriaid yn ysgogi newid o fewn busnesau sefydledig, yn dysgu sgiliau newydd, yn mireinio prosesau ac yn tyfu busnesau i farchnadoedd newydd. Mae gweminarau Cyfres Intrapreneuriaeth rhad ac am ddim y Brifysgol Agored yn rhoi’r offer i chi ddeall intrapreneuriaeth, creu diwylliant er mwyn iddo ffynnu ac awgrymiadau i gyflawni newid mewn meysydd fel technoleg, Deallusrwydd Artiffisial a chynaliadwyedd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru:  The Intrapreneurship Series: Driving innovation from within | Open University


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.