Newyddion

Y gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym y penwythnos hwn

disposable vapes

O ddydd Sul, 1 Mehefin 2025, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU gyfan i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn amcangyfrif bod 360,000 o fêps untro yn cael eu taflu fel sbwriel ar lawr yng Nghymru dros flwyddyn, a bod 120,000 yn cael eu fflysio i lawr y toiled.

Mae sbwriel yn difetha ein cymunedau, yn llygru pridd, afonydd a nentydd â sylweddau niweidiol, ac yn achosi niwed i fioamrywiaeth.

Mae’r gwaharddiad yn dilyn yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.

Mae tua 2,000 o fanwerthwyr bach a chanolig ledled Cymru wedi cael gwybodaeth copi caled gan Lywodraeth Cymru yn esbonio'r gwaharddiad a'r camau y mae angen iddynt eu cymryd.

Rhaid i fusnesau sy'n gwerthu fêps untro gynnig gwasanaeth ailgylchu a chymryd fêps, podiau a batris eu cwsmeriaid yn ôl, a chael gwared ar unrhyw fêps untro sydd ganddynt dros ben yn gywir.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Y gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym y penwythnos hwn | LLYW.CYMRU a Y gwaharddiad ar fêps untro: canllawiau ar gyfer busnesau | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.