Mae ceisiadau ar agor i sefydliadau elusennol bach a chanolig sydd wedi'u cofrestru yn y DU.
Mae'r Gronfa Ranbarthol i Bobl Greadigol, a ariennir gan Amazon, yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithio ar draws y diwydiannau creadigol, gan gynnwys:
- Cerddoriaeth
- Celfyddydau Perfformio a Digwyddiadau Byw
- Sgrin a Sain
- Digidol a Rhyngweithiol
- Cyhoeddi a Chyfathrebu
- Ffasiwn, Crefft a'r Celfyddydau Gweledol
- Comedi
- Trawsddisgyblaethol
- Arall
Mae grantiau ar gael o £1,000 i £30,000 ar gyfer sefydliadau unigol, a hyd at £100,000 ar gyfer consortia, y mae eu haelodau wedi'u lleoli yn yr un rhanbarth, ar yr amod eu bod eisoes yn cynnal prosiectau sgiliau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn chwilio am gyllid pellach i dyfu, cynnal neu ailddychmygu'r gwaith hwnnw.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 2 Awst 2026.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cronfa Ranbarthol i Bobl Greadigol Amazon.
O gyllid ac adnoddau i gefnogaeth ac arweiniad, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i helpu ein diwydiannau creadigol i ffynnu. Dewch o hyd i’r cyfleoedd sydd ar gael i chi: Ariannu a Chefnogaeth | Creadigol | Cymru.