O 15 Mehefin 2026, gall trefnwyr Balchder lleol ledled Cymru wneud cais am gyllid i dalu costau cynnal digwyddiadau Balchder lleol ledled Cymru a gynhelir yn 2026 i 2027.
Mae'r gronfa yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Pride Cymru.
Mae digwyddiadau Balchder sy'n cael eu cefnogi gan y gronfa wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 6 digwyddiad yn 2022 i 2023 i 21 y llynedd. Mae £69,250 ar gael gan y gronfa eleni, sy'n uwch na'r £17,700 yn 2022 i 2023.
Mae nifer o ddigwyddiadau Balchder lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru y mis hwn. Defnyddiodd Gyda'n Gilydd ar gyfer Bae Colwyn gyllid o'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad i gyflwyno penwythnos llawn dathliadau, cerddoriaeth fyw, adloniant, gweithgareddau i deuluoedd, stondinau cymunedol a gwerthwyr bwyd, a hynny oll am ddim.
Cliciwch ar y dolenni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: