Newyddion

Y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru – Yn dodgwydni fygythiadau seibr

Cyber hacker

Mae plismona wedi partneru â’r byd academaidd a’r sector preifat i gefnogi busnesau a sefydliadau Cymru gyda seiberddiogelwch.

Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru (WCRC) yn helpu microfusnesau, busnesau bach, busnesau bach a chanolig, elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill i adeiladu, cynnal a chynyddu ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch. Mae ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch yn sicrhau gwell amddiffyniad rhag bygythiad real iawn seiberdroseddu sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd.

Os na chaiff ei gynllunio’n gywir, gall seiberddiogelwch fod yn anodd, yn gymhleth ac yn gostus. Gall cymuned fusnes Cymru fod yn sicr o wybodaeth gywir, amserol y gellir ei gweithredu drwy’r WCRC ac maent ymrwymo i gael gwared ar rwystrau fel bod seiberddiogelwch yn fwy hygyrch, fforddiadwy ac yn bwysicaf oll, yn hawdd ei ddeall.

Mae seiberdroseddu yn fygythiad i bob busnes, waeth beth fo'i faint, lleoliad, diwydiant neu oedran.

Cadwch barhad a chynaliadwyedd eich busnes trwy ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch trwy ymuno â WCRC heddiw am ddim: Membership | Cyber Resilience Centre for Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.