
Bydd mesurau i fynd i'r afael â bygythiad meddalwedd wystlo a diogelu busnesau a gwasanaethau hanfodol yn symud ymlaen gyda'r diwydiant yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Disgwylir i ysbytai, busnesau a gwasanaethau critigol gael eu diogelu o dan fesurau sydd wedi'u cynllunio i atal seiberdroseddwyr a diogelu'r cyhoedd.
Mae meddalwedd wystlo yn feddalwedd a ddefnyddir yn faleisus gan seiberdroseddwyr i gael mynediad at systemau cyfrifiadurol dioddefwyr. Gall systemau a data gael eu hamgryptio, neu ddata ei dwyn, nes bod pridwerth yn cael ei dalu. Amcangyfrifir bod meddalwedd wystlo yn costio miliynau o bunnoedd i economi'r DU bob blwyddyn, gydag ymosodiadau meddalwedd wystlo proffil uchel diweddar yn tynnu sylw at y risgiau gweithredol, ariannol a hyd yn oed risgiau i fywyd difrifol.
Bydd y pecyn newydd o fesurau yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â meddalwedd wystlo ac fe'u cynlluniwyd i ymosod ar fodel busnes seiberdroseddwyr, gan gryfhau ein diogelwch cenedlaethol ac amddiffyn gwasanaethau a busnesau allweddol rhag aflonyddwch. Maent yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda rhanddeiliaid ledled y DU a ddangosodd gefnogaeth gyhoeddus gref i weithredu llymach er mwyn mynd i'r afael â meddalwedd wystlo a diogelu gwasanaethau hanfodol.
Darllenwch UK government’s response to the ransomware consultation.
Mae llywodraeth y DU wedi diweddaru eu canllawiau er mwyn helpu busnesau a sefydliadau i wella diogelwch ar-lein ac amddiffyn rhag bygythiadau seiber. Am ragor o wybodaeth ewch i: Cyber security guidance for business - GOV.UK.
Os ydych chi'n fusnes, yn elusen neu’n sefydliad arall sy'n dioddef ymosodiad seiber byw ar hyn o bryd, ffoniwch 0300 123 2040 ar unwaith. Am ragor o wybodaeth ewch i: Adrodd seiber byw 24/7 ar gyfer busnesau.
Mae cymorth i bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus leihau'r risg o ymosodiadau seiber ar gael ar Gyngor ac arweiniad ar seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU.