Newyddion

Y Diwydiant Dal Carbon yn Tyfu Ledled Gogledd Cymru

Engineer

Mae safle clwstwr dal carbon HyNet yn cael hwb wrth i brosiectau newydd ddechrau trafodaethau gyda llywodraeth y DU a’r diwydiant i ymuno â'r safle, gan sicrhau swyddi medrus i bobl leol.

Y 2 brosiect sy'n cael eu blaenoriaethu i ymuno â'r rhwydwaith yw:

  • Prosiect Pŵer Carbon Isel Cei Connah yng Ngogledd Cymru
  • Ince Bioenergy with Carbon Capture and Storage (InBECCS) yn Swydd Gaer

Bydd piblinellau a chyfleusterau gweithgynhyrchu newydd yn cael eu hadeiladu, a bydd gorsafoedd pŵer presennol yn cael eu hailbwrpasu i ddal allyriadau carbon a'u storio'n ddiogel o dan wely'r môr, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK ac New Government support for industry in the North West and North Wales - HyNet.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.