
Aeth y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd a materion gwledig ar daith o amgylch Lolfa Fusnes flaenllaw Bwyd a Diod Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru, heddiw [dydd Mawrth 22 Gorffennaf] gan weld drosto'i hun sut mae cymorth Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd masnachol mawr i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.
Y llynedd, sicrhaodd y Lolfa Fusnes y canlyniadau mwyaf erioed, gan ddenu 287 o brynwyr o wahanol sectorau'r farchnad a chynhyrchu £3.5 miliwn mewn gwerthiant wedi'i gadarnhau gydag amcangyfrif o £2 filiwn arall mewn gwerthiant posibl. Cofnododd y digwyddiad dros 1,080 o gyfleoedd busnes posibl, sef yr ymwneud mwyaf â phrynwyr hyd yma ar gyfer y rhaglen hon.
Yn 2024, daeth yr arddangosfa â busnesau allweddol y diwydiant at ei gilydd, gan gynnwys 88 o fanwerthwyr mawr, cwmnïau a chyfanwerthwyr gwasanaethau bwyd, 156 o delis, siopau fferm a lleoliadau lletygarwch, a 43 o gynrychiolwyr caffael cyhoeddus.
Ac eleni, bydd tua 2000 o gynhyrchion gan dros 300 o gynhyrchwyr yn cael eu harddangos yn y Lolfa Fusnes.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth: Y Dirprwy Brif Weinidog yn gwledda ar lwyddiant yn Arddangosfa Fwyd Sioe Frenhinol Cymru | LLYW.CYMRU
Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Busnes Cymru - Bwyd a Diod