Bydd y cyllid dangosol gwerth £3m ar gael i bob ffermwr cymwys sydd â thir organig ardystiedig.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth organig yn seiliedig ar gyfuniad o amcanion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Caiff ffermio organig ei ystyried yn gonglfaen amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru, gan sicrhau manteision i fioamrywiaeth, hinsawdd, economïau gwledig ac iechyd y cyhoedd. Nod y cymorth gan y llywodraeth yw sicrhau bod ffermio organig yn parhau i fod yn hyfyw ac yn ddeniadol, yn enwedig wrth i Gymru drosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Yn ystod ei araith yn y derbyniad yn y Ffair Aeaf, amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog ei weledigaeth ar gyfer ffermio yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, diogelu'r amgylchedd a chefnogi cymunedau gwledig.
Darllenwch y datganiad llawn drwy fynd i’r ddolen ganlynol: Y Dirprwy Brif Weinidog yn cyhoeddi gwerth £3m o gymorth i ffermio organig yn y Ffair Aeaf | LLYW.CYMRU