
Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael ei chynnal rhwng 12 a 18 Mai 2025.
Y thema ar gyfer 2025 yw cymuned: "Dod ynghyd er lles iechyd meddwl da".
Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel, gadarnhaol yn hanfodol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Rydym yn ffynnu pan fydd gennym gysylltiadau cryf â phobl eraill a chymunedau cefnogol sy'n ein hatgoffa nad ydym ar ein pen ein hunain. Gall cymunedau roi ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cefnogaeth mewn amseroedd anodd, a rhoi ymdeimlad o bwrpas i ni.
Sut byddwch chi'n dathlu pŵer cymuned yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl?
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Mental Health Awareness Week | Mental Health Foundation
Ydych chi'n siarad am iechyd meddwl yn y gwaith?
Mae’n bwysicach nag erioed i roi sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall amlygiad hirdymor i straen na ellir ei reoli achosi problemau iechyd meddwl neu waethygu problemau sy’n bod eisoes: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru