Newyddion

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol lle mae'r DU gyfan yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar gyflawni iechyd meddwl da.

Nod yr wythnos yw mynd i'r afael â'r stigma a galluogi pobl i ddeall a rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl.

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni rhwng 15 Mai a 21 Mai 2023, a'r thema yw Pryder. Mae pryder yn emosiwn dynol pwysig ond, mewn rhai amgylchiadau, mae'n gallu mynd allan o reolaeth a dod yn broblem iechyd meddwl.

Gall llawer o bethau gwahanol gyfrannu at deimladau o bryder, gan gynnwys arholiadau, perthnasoedd, swydd newydd, dêt neu newid mawr mewn bywyd. Mae hefyd yn emosiwn mae pobl yn ei brofi'n aml o ran arian a methu bodloni anghenion sylfaenol bywyd.

Pryder hefyd yw un o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Ydych chi'n siarad am iechyd meddwl yn y gwaith?

Ni fu erioed yn bwysicach rhoi sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.