
Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia 2025 (#DAW25) yn cael ei chynnal o ddydd Llun 6 Hydref tan ddydd Sul 12 Hydref 2025.
Thema'r wythnos fydd Dyslecsia: Codi Llais.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dyslexia Awareness Week - British Dyslexia Association.
Mae pob person â dyslecsia yn ei brofi mewn ffordd unigryw iddyn nhw. Bydd gan bob un ei gryfderau a'i heriau ei hun a byddant yn cerdded eu llwybrau eu hunain trwy fywyd.
Mae ystyried dyslecsia yn gwneud synnwyr busnes da. Mae ymgorffori'r ethos hwn yn eich sefydliad o fudd i bawb, mae'n galluogi eich gweithwyr i gyflawni eu potensial a hefyd yn cefnogi eich cwsmeriaid a'ch cleientiaid dyslecsig.
Mae gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain ystod o adnoddau i gyflogwyr i gefnogi gweithwyr dyslecsig: Resources - British Dyslexia Association.