
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol eleni rhwng 7 a 13 Gorffennaf 2025 ar y thema alcohol a gwaith.
Wythnos ymwybyddiaeth alcohol yw cyfle’r DU i siarad am niwed alcohol.
Mae annog sgyrsiau agored am niwed alcohol o fudd i weithwyr a chyflogwyr. Gall gweithle sy'n cefnogi gweithwyr:
- Greu diwylliant agored a llawn dealltwriaeth
- Cryfhau perthnasoedd yn y gweithle a gwaith tîm
- Sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi
- Lleihau absenoldebau oherwydd alcohol a gorlethu
- Gwella cynhyrchiant a lleihau’r risgiau diogelwch
Mae sicrhau bod polisïau’r gweithle yn cydymffurfio â'r gyfraith yn helpu i amddiffyn gweithwyr ac yn lleihau'r risg o gamau cyfreithiol neu gosbau am ddiffyg cefnogaeth. Gallwch ddarganfod mwy ar dudalen pwnc ymddygiadau caethiwus Cymru Iach ar Waith.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol - Cymru Iach ar Waith