
12 i 16 Mai 2025 yw wythnos y Cynnig Cymraeg.
Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Gomisiynydd y Gymraeg sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.
Os oes gennych chi bolisi neu gynllun iaith yn barod, gall Comisiynydd weithio gyda chi i'w datblygu ymhellach ac i ennill cydnabyddiaeth swyddogol.
Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.
Dylai siaradwyr Cymraeg yng Nghymru fedru derbyn gwasanaethau yn eu hiaith, ac i wybod pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Er mwyn medru byw yn Gymraeg mae angen i bawb wybod pa wasanaethau sydd ar gael.
Bydd yr wythnos yn ddathliad llwyddiant o sefydliadau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg a’r rheini sydd yn nghanol y broses o fynd amdani. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’w defnyddio, ac yn annog pobl Cymru i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Mae’r Comisiynydd yn gobeithio gweld mwyfwy o fusnesau ac elusennau yn defnyddio’r iaith ac yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y Cynnig Cymraeg mae croeso i chi gysylltu y Cysylltu â ni
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru