Newyddion

Wythnos Twristiaeth Cymru 2025

Family at Ynys Llanddwyn, Ynys Mon

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn cael ei chynnal rhwng 12 Mai i 18 Mai 2025 eleni.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle sy’n cael ei arwain gan y diwydiant i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ond mae hefyd yn gyfle i arddangos safon twristiaeth Cymru. 

Cadwch lygad am ragor o wybodaeth ar: Wales Tourism Week 2025 - Wales Tourism Alliance

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Gall bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg fod yn brofiad gwerth chweil. 

Waeth a ydych chi’n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu’n awyddus i dyfu eich busnes presennol, gallwn helpu gyda chyllid ar gyfer prosiectau newydd neu brosiectau sy'n bodoli eisoes, cynlluniau gradd sêr ar gyfer ansawdd llety ac atyniadau i dwristiaid, a gallwn helpu i hyrwyddo’ch busnes. Rydych chi yn y lle iawn ar gyfer cymorth busnes wedi'i deilwra ar gyfer busnesau twristiaeth: Cefnogi chi | Diwydiant

Darllenwch y datganiad cyntaf ynghylch y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y tripiau twristiaeth dros nos domestig a wnaed gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr hyd fis Rhagfyr 2024. 

Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cynnig y bydd pobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig yn talu tâl bach. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol. Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll yn eu hardal, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'w cymunedau. Amcangyfrifir mai'r cynharaf y gallai hyn ddigwydd yw yn 2027 ar ôl i awdurdodau lleol ymgynghori â'u cymunedau. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyflwyno deddfwriaeth i hybu diwydiant twristiaeth ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.