Newyddion

Wythnos Tech Cymru yn dychwelyd yn 2025

People attending an event

Mae Wythnos Tech Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan Technology Connected, yn arddangos technoleg o Gymru ac yn hyrwyddo'r diwydiant ar y llwyfan byd-eang.

Mae'n cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau sy'n datblygu, a'u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. 

Bydd Wythnos Tech Cymru 2025 yn uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd, rhwng 24 a 26 Tachwedd 2025, gan ddod â rhai o feddyliau technoleg gorau'r byd at ei gilydd i ddysgu, cysylltu a gwneud busnes, ynghyd â chyfleoedd am nawdd ac arddangos.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn arddangos, mynychu neu siarad yn yr uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol, gallwch gofrestru nawr i dderbyn rhagor o wybodaeth drwy Wales Tech Week - 24-26 Tachwedd 2025


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.