Newyddion

Wythnos Tech Cymru 2023

Digital transformation concept. System engineering. Binary code. Programming.

Mae Wythnos Tech Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan Technology Connected, yn arddangos technoleg o Gymru ac yn hyrwyddo'r diwydiant ar y llwyfan byd-eang.

Mae'n cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau sy'n datblygu, a'u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. 

Ar ôl dwy flynedd o fod yn rhithiol, mae nawr yn bryd bod yn gorfforol. Bydd Wythnos Tech Cymru 2023 yn uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd, rhwng 16 a 18 Hydref 2023, gan ddod â rhai o feddyliau technoleg gorau'r byd at ei gilydd i ddysgu, cysylltu a gwneud busnes, ynghyd â chyfleoedd am nawdd ac arddangos.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wales Tech Week 2023 - 16-18 October 2023


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.