Newyddion

Wythnos Siarad Arian 2026

Piggy bank

Mae Wythnos Siarad Arian, rhwng 2 a 6 Tachwedd, yn gyfle i bawb yn y DU dechrau sgwrs am eu cyllid. Darganfyddwch sut i gymryd rhan gyda’ch sefydliad.

Y thema eleni yw 'Mae'r Cyfan yn Cyfrif', gan ganolbwyntio ar weithredoedd realistig, rheoladwy.

Mae llawer o bobl ledled y DU yn teimlo dan bwysau o ran eu cyllid, yn aml am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth. Ond o ran arian, gall gweithredoedd o bob maint wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

P'un a yw'n siarad â benthyciwr cyn i ad-daliadau ddod yn broblem, gwirio a oes gennych hawl i fudd-daliadau nad ydych wedi gwneud cais amdanynt, neu trafod pryder ariannol gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo - 'Mae'r Cyfan yn Cyfrif'.

Annogir pob sefydliad i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, yn enwedig os ydych chi’n:

  • gyflogwr
  • darparu gwasanaethau ariannol
  • gweithio mewn llywodraeth leol a thai
  • yn sefydliad cymunedol
  • gweithio gyda phlant neu deuluoedd
  • gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • rhoi arweiniad ariannol anffurfiol i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Wythnos Siarad Arian | Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

Bob blwyddyn, mae dros £1 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru. O’r Credyd Pensiwn a’r Lwfans Gofalwyr, i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a chymorth i dalu dy fil Treth y Cyngor. Fe allet ti gael mwy o arian i helpu gyda chostau byw, hyd yn oed os wyt ti’n hawlio budd-daliadau’n barod: Gwasanaeth hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi | LLYW.CYMRU.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.