Newyddion

Wythnos Siarad Arian 2025

Tutor and student

Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian.

Bob blwyddyn mae Wythnos Siarad Arian, eleni rhwng 3 ac 7 Tachwedd, yn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid.

Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian, o arian poced i bensiynau a pharhau â’r sgyrsiau hyn gydol y flwyddyn.

Gyda phwysau costau byw presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cael cefnogaeth i bryderon ariannol.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:

  • yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell â llai o risg
  • yn mwynhau perthnasau personol cryfach
  • yn helpu eu plant i ffurfio arferion arian da gydol oes
  • yn teimlo llai o straen a phryder, a’u bod â mwy o reolaeth.

Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.

Ta waeth beth yw eich sector neu faint eich sefydliad, defnyddiwch y canllawiau canlynol i’ch helpu i ddechrau sgyrsiau am arian: Wythnos Siarad Arian | Gwasanaeth Arian a Phensiynau (maps.org.uk).

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.