Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru, sy'n cael ei chynnal rhwng 9 - 15 Chwefror 2026, yn ddathliad blynyddol o brentisiaethau a'r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru.
Wrth ddod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr ynghyd, mae'r Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau gyfan i hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ledled Cymru.
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad i bawb. Boed â diddordeb mewn prentisiaethau, yn cwblhau prentisiaeth ar hyn o bryd neu'n gyflogwr, darparwr neu'n ysgol yng Nghymru, fe'ch gwahoddir i gynnal eich dathliadau eich hun.
Mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn cael eu hannog i hyrwyddo llwyddiannau anhygoel eu prentisiaid, gan dynnu sylw at y manteision y mae prentisiaid yn eu cynnig i'w busnes a'r economi ehangach yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 | LLYW.CYMRU.