Newyddion

Wythnos Masnach Ryngwladol 2025

International port

Bydd Wythnos Masnach Ryngwladol (ITW) yn cael ei chynnal am y pumed tro o ddydd Llun 3 i ddydd Gwener 7 Tachwedd 2025.

Dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach (DBT) a chyda nawdd gan Santander UK, mewn partneriaeth â’r diwydiant, bydd Wythnos Masnach Ryngwladol 2025 yn cynnwys pum diwrnod llawn cyffro gyda gweminarau a digwyddiadau wyneb yn wyneb – pob un am ddim i fusnesau yn y Deyrnas Unedig.

Boed chi'n awyddus i sicrhau eich contract allforio cyntaf neu ehangu eich gwerthiannau rhyngwladol presennol, bydd gan Wythnos Masnach Ryngwladol rywbeth i chi. Mae gweithgareddau'r wythnos yn addas ar gyfer cwmnïau nwyddau a gwasanaethau o bob maint a sector yn y DU – dim ond diddordeb mewn tyfu eich busnes sydd ei angen arnoch chi. Daeth miloedd o gwmnïau i Wythnos Masnach Ryngwladol 2024, gan elwa o'r ystod eang o ddigwyddiadau oedd ar gael.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: International Trade Week 2025 a View and register for ITW events.

Allforio Busnes Cymru: Dysgwch am yr holl raglenni allforio a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i gwmnïau o Gymru sydd â diddordeb mewn archwilio manteision allforio, neu hyrwyddo strategaeth allforio sydd eisoes wedi’i sefydlu: Hafan | Busnes Cymru - Allforio


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.