Mae Wythnos Gwirfoddoli yn ddigwyddiad blynyddol pan mae elusennau, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau cymdeithasol, a gwirfoddolwyr eu hunain, yn dod at ei gilydd i gydnabod yr effaith anhygoel a gaiff gwirfoddoli mewn cymunedau ledled y DU.
Bydd yr wythnos yn lansio ddydd Llun, 1 Mehefin 2026 ac yn para tan ddydd Sul, 7 Mehefin 2025.
Mae gwirfoddoli’n creu cysylltiadau, yn meithrin sgiliau ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas. A dangoswyd ei fod yn dda ar gyfer lles y gwirfoddolwyr, hefyd.
Trefnir Wythnos Gwirfoddoli gan Fforwm Gwirfoddoli’r DU, sef partneriaeth rhwng NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol), CGGC, Volunteer Scotland a Volunteer Now.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol:
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.
Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales).