
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, o 23 i 30 Mehefin, yn (gyfle i ddangos a dathlu’r effaith a’r amrywiaeth o waith ieuenctid ledled Cymru.
Mae’r Wythnos yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o waith ieuenctid a chefnogaeth ar ei gyfer. Rydym yn annog pobl ifanc, sefydliadau gwaith ieuenctid, i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid eraill i ymuno yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #GwaithIeuenctidCymru a #YouthWorkWales.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Youth Work Week / Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 – CWVYS